Teithio o ddydd i ddydd:
Byddwch yn ymwybodol o'r dull trafnidiaeth a dewiswch ddulliau sy'n achosi llai o lygredd, fel trenau. Mae yna lawer o wahanol opsiynau ar gyfer teithio i’r campws. Manteisiwch ar opsiynau gwyrdd fel cerdded, beicio, rhannu ceir a bysiau trydan neu allyriadau isel a fydd yn aml hefyd yn is o ran pris.
Oeddech chi'n gwybod bod yna gyfleusterau beicio ar bob un o gampysau PDC. Mae gwefan Sustrans yn cynnig awgrymiadau a chyngor am feicio yn ogystal â gwybodaeth am y rhwydweithiau beicio sydd ar gael yn lleol.
Gall dewis rhai opsiynau mwy gwyrdd ar gyfer teithio hefyd fod yn ffordd wych o gadw'n heini a gwella'ch iechyd. P’un a ydych am roi cynnig ar lwybrau newydd, ymdrechu i fod yn gyflymach, eisiau wynebu her, cael gwell dygnwch neu wella ffitrwydd, gall cerddwyr, rhedwyr a beicwyr ddefnyddio nifer o gymwysiadau, gan gynnwys y canlynol:
Mapmywalk
Runkeeper
Cyclingbuddy
Gwyliau a hamdden:
Wrth ystyried gwyliau, gallech ddewis ‘gwyliau gartref’, gan fanteisio ar weithgareddau sy'n agos i'ch cartref. Mae’r gwefannau canlynol yn rhoi llu o awgrymiadau o bethau i’w gwneud yn yr ardal leol, ac mae llawer ohonynt yn rhesymol:
Pontypridd:
https://www.rctcbc.gov.uk/EN/Tourism/Thingstodo/Thingstodo.aspx
https://www.visitwales.com/destinations/south-wales/south-wales-valleys
Caerdydd:
https://www.outdoorcardiff.com/
https://www.visitcardiff.com/see-do/
Casnewydd: