Nid ydym yn gyfforddus â ‘ffasiwn cyflym’, newidiadau cyflym mewn ffasiwn, cynhyrchu cyflym, eitemau sy’n cael eu gwisgo ychydig o weithiau yn unig, wedyn yn cael eu diystyru.
Nid yw hyn yn arbennig o gynaliadwy, sut gallwch chi wneud penderfyniadau gwybodus am brynu dillad wrth wneud eich rhan ac arbed arian yn y tymor hir?
Dyma ychydig o awgrymiadau! Meddyliwch ddwywaith cyn talu'r pris!
Gofynnwch i chi'ch hun, a oes gwir angen y top yna a fydd yn mynd allan o ffasiwn ymhen mis neu ddau?
• Mae'n bosibl mai unwaith neu ddwywaith yn unig y cafodd eitemau a gyn-garwyd eu gwisgo, heb unrhyw draul ... nid oes angen meddwl dwywaith am hynny, os yw'n eitem o ansawdd da ac yn rhatach mae pawb ar eu hennill!
• Mae hi mor hawdd postio’ch eitemau sydd wedi’u gwerthu nawr gyda lleoliadau Hermes a darparwyr eraill yn ymddangos mewn siopau lleol.
• Siopa mwy doeth, buddsoddwch mewn brandiau sy'n hyrwyddo arfer cynaliadwy, mae hyd yn oed Primark yn symud tuag at ddull mwy cynaliadwy y dyddiau hyn!