Mae’r argyfwng costau byw yn effeithio ar lawer o bobl mewn llawer o wahanol ffyrdd – mae’n ymddangos bod y newyddion bob amser yn sôn am y cynnydd parhaus mewn biliau ynni, chwyddiant a chost bwyd.
Gall deimlo'n llethol - ond mae llawer o gyfleoedd i leihau costau a gwneud arbedion.
Dyma ychydig o wybodaeth y gallwch chi ei gwirio, a rhai awgrymiadau ar sut i ymdopi.
Cael budd-daliadau ac rydych yn profi caledi eithafol? Os ydych yn aros am eich taliad cyntaf, wedi colli eich swydd, neu’n methu â thalu biliau – gwnewch gais am arian ar gyfer bwyd, ynni, dillad neu deithio
Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan yn cefnogi myfyrwyr yng Ngwent gydag arian, bwyd a chymorth cymunedol – ac mae byrddau iechyd eraill yn cynnig cymorth hefyd
Bydd grant o £400, na fydd angen ei ad-dalu, yn cael ei dynnu oddi ar eich bil ynni os ydych yn byw ym Mhrydain Fawr – gallai hyn leihau biliau mewn tai a rennir i ddechrau, ond bydd yn cynyddu’n sylweddol pan fydd y £400 yn dod i ben. Awgrymiadau gwych ar gyfer arbed arian ar filiau ynni.
Cael trafferth eu fforddio? Efallai y gallwch chi roi cynnig ar dariff cymdeithasol yn lle hynny
Mae’n cefnogi rhwydwaith cenedlaethol o fanciau bwyd, bwyd brys a chymorth - dewch o hyd i'ch banc bwyd lleol