Gyda chyllidebau dan bwysau cynyddol, gall llawer gael eu temtio i droi at gamblo mewn ymdrech i wneud arian. Gall hwyliau isel sy'n gysylltiedig â phryderon ariannol hefyd arwain at gamblo.
Mae’n hawdd ymgolli mewn gamblo – gyda’r demtasiwn i ennill eto neu i ail-fuddsoddi’ch enillion mewn gambl arall. Gallai caethiwed gamblo beryglu eich addysg, cael goblygiadau ariannol difrifol a hyd yn oed chwalu perthnasoedd gyda ffrindiau a theulu.
Awgrymiadau ar Gamblo'n Fwy Diogel
Rydym yn annog unrhyw un sydd â phryderon am eu harferion gamblo eu hunain, neu’r rhai sy’n agos atynt i gysylltu i gael gwybodaeth gychwynnol am sut y gallwn gynnig cymorth.
Fel arall, gallwch hefyd weld blogiau ac erthyglau ynghyd â chyngor a gwybodaeth trwy Gamcare ac YGAM.