Mae'n Wythnos Arian Myfyrwyr Cenedlaethol 3 - 7 Mawrth 2025!

NSMW CYM

Thema eleni yw ‘Goroesi a Ffynnu: Meithrin Cadernid Ariannol’ ac rydym am eich helpu i ddatblygu sgiliau lles ariannol er mwyn i chi ‘Oroesi’ a’ch annog gyda syniadau ar sut i ‘Ffynnu’ yn y tymor hir ac yn eich dyfodol.

Ymwelwch â’r Tîm Cyngor Ariannol i Fyfyrwyr a rhowch gynnig ar ein cystadleuaeth ‘Awgrymiadau Cynilo Arian’ i gael cyfle i ennill amrywiaeth o wobrau:

Dydd Llun 3 Mawrth – Byddwn yn Stilts ar Gampws Trefforest rhwng 11:30yb-1:30yp. Bydd y Gwasanaeth Anabledd a chydweithwyr o'r wasanaethau cymorth yn ymuno â ni.

Dydd Mawrth 4 Mawrth -Byddwn yn Y Stryd ar Gampws Caerdydd rhwng 11:30yb-1:30yp. Bydd Tîm Troseddau Seiber ac Economaidd Rhanbarthol Tarian, y Gwasanaeth Anabledd a chydweithwyr o'r wasanaethau cymorth yn ymuno â ni.

Dydd Iau 6 Mawrth - Byddwn yn y Cyntedd ar Gampws Casnewydd rhwng 11:30yb-1:30yp. Bydd y Gwasanaeth Anabledd yn ymuno â ni.

Amser cystadlu – cyfle i ennill £500!

Blacbullion NSMW CYM

Rydym yn falch o fod yn bartner gyda Blackbullion sy'n ymuno ag ymgyrch NSMW25 gyda ffocws ar ffynnu trwy brysurdeb.

Mae Blackbullion hefyd wedi lansio cystadleuaeth i ennill £500 pan fyddwch chi'n cwblhau pob un o'r pedwar llwybr dysgu:

  1. Dropshipping
  2. Codi Arian Hawdd
  3. Ailwerthu
  4. Ysgoloriaethau

Yn ogystal, byddwch yn cael eich cynnwys mewn raffl os byddwch yn cwblhau Cwis Meddylfryd Arian yn ystod wythnos NSMW. Bydd 3 x £50 o hwb ariannol ar gael.

Cofrestrwch gyda Blackbullion gan ddefnyddio manylion eich cyfrif myfyriwr i gael mynediad at ystod o offer, adnoddau a chyngor arbenigol i’ch helpu i reoli eich cyllid:

Apple App Store: Lawrlwythwch Blackbullion - Rheolwr Arian

Google Play Store: Lawrlwythwch Blackbullion - Rheolwr Arian

Cronfa Cymorth Myfyrwyr

Os ydych yn fyfyriwr israddedig neu ôl-raddedig yn y DU (cartref) sy'n cael anhawster ariannol tra'ch bod yn astudio ym Mhrifysgol De Cymru, efallai y gallwn eich helpu drwy ein Cronfa Cymorth i Fyfyrwyr.

Gallwch ddod o hyd i ragor o wybodaeth am gymhwysedd a sut i wneud cais yma.

Angen unrhyw help pellach?

SMAT Managing Money

Gall rheoli eich arian yn y Brifysgol fod yn her.

Mae’r Tîm Cyngor Ariannol i Fyfyrwyr yn darparu cyngor a gwybodaeth i’ch helpu i wneud penderfyniadau gwybodus am eich arian. Am gyngor a chymorth, e-bostiwch neu trefnwch apwyntiad ffôn.

#Arian_Myfyrwyr #unilife_cymraeg