Blackbullion: Lansiad platfform rheoli arian digidol

blackbullion 2x1 cym

Mae PDC wedi partneru â Blackbullion, platfform dysgu digidol sy'n eich helpu i fod yn glyfar gydag arian a rheoli eich dyfodol ariannol.

Mae Blackbullion yn darparu addysg ariannol ddigidol sy'n datblygu hyder, gwybodaeth a sgiliau ac yn grymuso myfyrwyr i wneud dewisiadau arian gwell.

Sut mae Blackbullion yn gweithio

Mae Blackbullion yn ap a gwefan am ddim i holl fyfyrwyr PDC, a gynlluniwyd i'ch helpu i ddysgu sut i reoli eich arian wrth dyfu eich lles ariannol. Cofrestrwch gyda'ch manylion cyfrif myfyrwyr i gael mynediad at ystod o offer, adnoddau a chyngor arbenigol i’ch helpu i reoli eich cyllid.

Nodweddion Blackbullion

Sgôr Lles Ariannol

Pan fyddwch yn mewngofnodi i Blackbullion, byddwch yn cael cyfle i ddatgloi eich sgôr lles ariannol. I wneud hyn, gofynnir i chi gysylltu'ch cyfrif banc yn ddiogel gan ddefnyddio technoleg Bancio Agored. Mae hyn yn gadael i chi gael mewnwelediadau gwerthfawr i'ch gwariant ac yn eich helpu i reoli eich arian yn fwy effeithiol—a hyn oll wrth amddiffyn eich data, arian a diogelwch yn llawn. Drwy ateb ychydig o gwestiynau cyflym, byddwch yn cael mynediad at gynllun wedi'i deilwra a fydd yn eich helpu i wella rheoli eich arian.

Offer ariannol

Rhowch gynnig ar y Ciplun Gwario i weld sut rydych chi'n rheoli'ch arian o'i gymharu â myfyrwyr eraill, cymerwch y cwis Eich Meddylfryd Arian, neu defnyddiwch y Cyfrifiannell Cyllideb.

Mae pob offeryn ariannol wedi'i gynllunio i wneud rheoli arian yn gliriach ac yn haws ei ddeall, gan gynnig gwybodaeth ymarferol i'ch helpu i reoli’ch arian.

Cyfleoedd dysgu ac ariannu

Mae Hyb Dysgu'r platfform yn cynnig cyfoeth o adnoddau i fyfyrwyr, gan gwmpasu popeth o osod nodau ariannol a deall trethi i bynciau mwy unigryw. Fe welwch gyrsiau ar chwarae gemau ar gyllideb, dod o hyd i ffyrdd dilys o wneud arian ychwanegol, a fforddiadwyedd cymudo i'r campws.

Gall Blackbullion hefyd eich helpu i ddod o hyd i gyllid. Trwy ddefnyddio'r Hyb Cyllid, gallwch chwilio am fwrsariaethau, ysgoloriaethau a grantiau.

Gostyngiadau a gwobrau!

Ar gyfer pob gweithgaredd rydych chi'n ei gwblhau ar Blackbullion, byddwch chi'n cael eich gwobrwyo â bathodynnau digidol casgladwy a "bullions". Gellir gwario bullions ar yr ap, sy’n rhoi mynediad i ostyngiadau, gwobrau a chyfleoedd unigryw i chi.

Sut i gofrestru

  • Ewch i blackbullion.com a dewiswch y botwm 'Cofrestru'.
  • Gofynnir i chi am fanylion personol, gwybodaeth am eich astudiaethau, a'ch nodau ariannol.
  • Dilyswch y cyfeiriad e-bost y defnyddioch i gofrestru.
  • Nawr gallwch chi ddechrau defnyddio'r platfform! I lawrlwytho'r ap Blackbullion - Money Manager, chwiliwch 'Blackbullion' yn eich siop apiau, neu dewiswch y dolenni isod.

Apple App Store: Lawrlwythwch Blackbullion – Money Manager

Google Play Store: Lawrlwythwch Blackbullion – Money Manager

#Arian_Myfyrwyr #unilife_cymraeg