Mae’n bryd gwneud cais am gyllid myfyrwyr ôl-raddedig!

Bintou Jobe, PhD Research student - Annual Postgraduate Researchers Presentation Day 2022


Cyllid Myfyrwyr Cymru (CMC/SFW)

Mae’r cyfnod i wneud ceisiadau am Gyllid Graddau Meistr Ôl-raddedig a Benthyciadau Graddau Doethur Ôl-raddedig ar gyfer 2023 i 2024 wedi agor erbyn hyn!

Y ffordd hawsaf o wneud cais yw ar-lein – mewngofnodwch i’ch cyfrif yn awr.

Mae’n bwysig eich bod yn gwneud cais cyn gynted ag y bo modd, felly peidiwch â gwastraffu amser! Gwnewch gais yn awr neu mae’n bosibl na chewch eich talu mewn pryd ar gyfer dechrau eich cwrs.

Cael gwybod pa gyllid sydd ar gael yn 2023 i 2024

Ewch i’n tudalennau i gael gwybod sut mae gwneud cais, faint o arian y gallwch ei gael a pha help ychwanegol sydd ar gael i fyfyrwyr ag anabledd.

I gael rhagor o wybodaeth, gwyliwch ein ffilmiau sy’n esbonio Cyllid Graddau Meistr Ôl-raddedig a Benthyciadau Graddau Doethur Ôl-raddedig.

Lloegr (SFE)

Gallwch wneud cais am fenthyciad fel cyfraniad tuag at eich cwrs a chostau byw os ydych yn dechrau cwrs ym mlwyddyn academaidd 2023/24.

Gellir dod o hyd i feini prawf cymhwyster llawn a manylion am sut i wneud cais ar wefan Student Finance England.

Postgraduate Masters Loan Explained - 2023 to 2024 - YouTube

Postgraduate Doctoral Loan explained - 2023 to 2024 - YouTube

Gogledd Iwerddon (SFNI)

Defnyddiwch wefan Cyllid Myfyrwyr Gogledd Iwerddon i gael diweddariadau pellach, gan gynnwys sut i wneud cais.

Yr Alban (SAAS)

Mae rhagor o wybodaeth ar gael ar Asiantaeth Dyfarniadau Myfyrwyr yr Alban.

Beth mae'r Tîm Cynghor Ariannol i Fyfyrwyr yn ei gynnig?

Nod y Gwasanaeth yw:

Eich helpu i gael gwybod am gyfleoedd ariannu cyn dechrau astudio

Os oes angen help arnoch i lenwi ffurflen Cronfa,Cysylltu â ni 

#https://studentmoney.southwales.ac.uk/tim-cyngor-ariannol-i-fyfyrwyr/