Tîm Cyngor Ariannol i Fyfyrwyr

Student Money Advice Team

Gall rheoli eich arian yn y Brifysgol fod yn her.  Mae'r Tîm Cyngor Ariannol i Fyfyrwyr yn darparu cyngor a gwybodaeth i'ch helpu i wneud penderfyniadau gwybodus am eich sefyllfa ariannol.

Mae'r Gwasanaeth ar gael i fyfyrwyr a staff y Brifysgol, darpar fyfyrwyr y Brifysgol a graddedigion y Brifysgol.

Beth mae'r Tîm Cynghor Ariannol i Fyfyrwyr yn ei gynnig?

Nod y Gwasanaeth yw:

  • eich helpu i gael gwybod am gyfleoedd ariannu cyn dechrau astudio
  • eich helpu i wneud y gorau o'ch adnoddau ariannu tra byddwch yn y Brifysgol
  • cynnig help a chyngor ar reoli eich arian
  • cynnig cymorth uniongyrchol (lle bo modd) os ydych chi'n mynd i drafferthion ariannol.


Gyda chyfleoedd cyfyngedig i gynyddu eich incwm, mae'n arbennig o bwysig cyllidebu'n effeithiol i sicrhau bod eich cronfeydd yn para cyhyd â phosibl.

Gellir dod o hyd i awgrymiadau a chysylltiadau defnyddiol ar reoli eich arian ar ein gwefan: https://studentmoney.southwales.ac.uk/managing-your-money/

Cyflogaeth

Os ydych chi wedi colli swydd oherwydd yr argyfwng presennol, dylech wirio'r telerau ynglŷn â ffyrlo a gwirio gyda'ch cyflogwr a yw hyn yn bosibilrwydd i chi.

https://www.gov.uk/guidance/check-if-you-could-be-covered-by-the-coronavirus-job-retention-scheme

'Bydd unrhyw gyflogwr sydd â chyflogres yn y DU a chyfrif banc yn y DU yn gallu hawlio, ond mae'n rhaid i chi fod wedi bod ar gyflogres Cynllun Talu wrth Ennill (PAYE). Gallwch fod ar unrhyw fath o gontract, gan gynnwys contract dim oriau neu gontract dros dro. Gallwch gael eich ffyrlo o dan y cynllun os ydych yn ddinesydd tramor.’

Gellir cael mwy o wybodaeth a chyngor yma: https://www.citizensadvice.org.uk/wales/

Cyngor a chymorth pellach

Efallai y bydd myfyrwyr y DU sy'n ei chael hi'n anodd yn ariannol yn gymwys i wneud cais i'r Gronfa Cymorth Myfyrwyr.  Mae'r Tîm Cyngor ar Arian i Fyfyrwyr yn parhau i brosesu ceisiadau i'r Gronfa hon o bell. Os ydych yn ansicr a ydych yn gymwys i wneud cais neu os oes gennych unrhyw ymholiadau ar y broses ymgeisio, cysylltwch â'r Gronfa Cymorth Myfyrwyr yn uniongyrchol i gael cyngor: [email protected]

Sicrhewch fod y Tîm Cyngor ar Arian Myfyrwyr yn parhau i fod wrth law i'ch cynorthwyo gydag unrhyw ymholiadau ariannol neu anawsterau a allai fod gennych ar yr adeg hon.

Gallwch gyrchu'r Tîm trwy e-bost [email protected], ffon 01443 483778, neu gallwch archebu ap ffôn gyda Chynghorydd ar Arian trwy’r Ardal Gynghori Ar-lein.



#Arian_Myfyrwyr #featured