Gwnewch gais am eich cyllid myfyrwyr nawr!

Apply for your student funding CYM

Os ydych chi'n fyfyriwr israddedig amser llawn yn y DU neu'r UE sy’n derbyn cyllid myfyrwyr y llywodraeth ar gyfer eich astudiaethau, dylech ail-ymgeisio am eich cyllid ar gyfer 2020/21 cyn gynted â phosibl. 

Mae'r gwahanol asiantaethau Cyllid Myfyrwyr yn dal i weithredu, er gwaethaf gwasanaethau ac adnoddau cyfyngedig ac maent yn annog myfyrwyr i gyflwyno eu ceisiadau cyllid ar gyfer 2020/21.

Gallwch ddod o hyd i ragor o wybodaeth a dolenni cyswllt ar gyfer eich corff cyllido isod:

Gellir dod o hyd i rai Cwestiynau Cyffredin defnyddiol y llywodraeth ynghylch cyllid myfyrwyr ar GOV.UK - Canllawiau ar gyfer myfyrwyr cyfredol.

Cysylltwch â Thîm Cyngor ar Arian Myfyrwyr y Brifysgol os oes angen unrhyw gymorth arnoch gyda'ch cais.


#unilife_cymraeg #Arian_Myfyrwyr