15-03-2021
Mae Llywodraeth Cymru yn sicrhau bod arian ar gael i brifysgolion trwy Gyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru (HEFCW) i gefnogi myfyrwyr sy'n astudio yng Nghymru ac sy'n profi caledi ariannol sy'n deillio o'r pandemig.
Mae hyn yn canolbwyntio'n benodol ar fyfyrwyr sy'n fwy tebygol o ddioddef effaith andwyol gan y pandemig. Rydym wedi bod yn gweithio gyda'r prifysgolion eraill yng Nghymru i ddatblygu dull cyffredin ar draws pob sefydliad addysg uwch yng Nghymru.
Ar hyn o bryd rydym wrthi'n cwblhau sut y dosberthir yr arian i fyfyrwyr cymwys cyn gynted â phosibl, gan anelu hefyd at broses rwydd i'n myfyrwyr gael gafael ar y gefnogaeth hon. Gobeithiwn allu cadarnhau i fyfyrwyr sut y dosberthir yr arian yn ystod yr ychydig wythnosau nesaf.
20-02-2022
19-11-2021
08-07-2021
08-06-2021
11-05-2021
22-04-2021
15-03-2021
11-03-2021
15-02-2021