Sefydlu ‘hawl i rannu’ ar eich cyfrif cyllid myfyrwyr

Ni all Cyllid Myfyrwyr drafod unrhyw agwedd ar gyfrif neu gais myfyriwr gydag unrhyw un heblaw’r myfyriwr heb ganiatâd y myfyriwr. Mae hyn yn cynnwys rhieni neu bartner myfyriwr, cynrychiolydd cyfreithiol neu rywun o'u prifysgol neu goleg.

Eisiau rhoi mynediad i rywun arall?

Mae llawer o fyfyrwyr yn ei chael hi’n ddefnyddiol caniatáu i rywun arall alw ar eu rhan o bryd i’w gilydd – yn enwedig os ydynt yn cael anawsterau gyda’u cais. Gallwch gael hyd at ddau drydydd parti a enwir ar eich cyfrif – gan gynnwys ni os dymunwch.

Os ydych chi wedi archebu apwyntiad ac os hoffech i Gynghorydd Ariannol a Chymorth siarad â'ch corff Cyllid Myfyrwyr ar eich rhan, gallwch ffonio'ch corff Cyllid Myfyrwyr a rhoi caniatâd i ni yn y Brifysgol drafod eich cyfrif gyda nhw trwy sefydlu cyfrinair 'hawl i rannu'.

Gellir rhoi hawl i rannu drwy ffonio eich darparwr cyllid:

- Cymru a’r UE

- Lloegr

- Gogledd Iwerddon

- Yr Alban

- GIG Cymru

I roi hawl i rannu gyda ni

  • Rhowch eich Rhif Cyfeirnod Cwsmer, eich enw a'ch cyfeiriad,
  • ein henw (Prifysgol De Cymru) a'ch perthynas â'r myfyriwr – Darparwr Addysg Uwch, ein cyfeiriad llawn – Prifysgol De Cymru, Trefforest, CF37 1DL
  • cyfrinair – ni roddir unrhyw wybodaeth oni bai bod y trydydd parti yn cadarnhau hyn, felly gadewch i ni wybod beth ydyw cyn eich apwyntiad drwy e-bostio [email protected] ddyddiad sy’n nodi pryd y dylai’r hawl i rannu ddod i ben, neu i gadarnhau a yw’n amhenodol.