Ydy Eich Amgylchiadau'n Newid?

Gallai toriad ar eich astudiaethau, trosglwyddo neu adael eich cwrs effeithio ar eich cyllid

Dyma grynodeb o'r hyn a allai ddigwydd os byddwch yn cael toriad ar eich astudiaethau, trosglwyddo neu adael eich cwrs. Trefnwch apwyntiad gyda ni i drafod sut y bydd eich amgylchiadau unigol a'ch hanes astudio yn effeithio ar eich hawl i gael cyllid.

Os ydych chi'n fyfyriwr israddedig llawn amser (heb gyllid trwy fwrsariaeth y GIG) a'ch bod yn cael toriad ar eich astudiaethau neu'n gadael eich cwrs, bydd eich cyllid yn cael ei effeithio ar gyfer y cyfnod pan fyddwch allan o astudiaethau.

Yn dibynnu ar eich astudiaeth flaenorol, efallai y bydd eich cyllid ar gyfer y blynyddoedd i ddod hefyd yn cael ei effeithio. Trefnwch apwyntiad gyda ni cyn i chi adael eich cwrs fel y gallwn drafod y goblygiadau ariannol a'ch helpu i leihau effaith y rhain lle bynnag y bo modd.

Mae rhywfaint o wybodaeth am sut y gallai eich cyllid gael ei effeithio ar gyfer y blynyddoedd i ddod yma https://www.southwales.ac.uk/cy/astudio/ffioedd-a-chyllid/ffioedd-a-chyllid-israddedig-/cyllid-myfyrwyr-israddedig/astudiaethau-blaenorol-/

Os ydych yn trosglwyddo cyn dechrau'r cwrs, gofynnwch i'ch corff cyllid myfyrwyr newid eich cwrs, i'r cwrs cywir cyn i chi ddechrau eich astudiaethau.

Wedi dechrau eich cwrs yn barod? Cyflwynwch gais 'newid amgylchiadau' a threfnu apwyntiad gyda Chynghorydd Arian cyn newid eich cwrs fel y gallwn ni wirio a fydd unrhyw oblygiadau ariannol yn sgil y newid hwn.

Os ydych chi'n astudio cwrs Nyrsio a ariennir gan GIG Cymru, siaradwch â nhw am y goblygiadau ariannol neu drefnu apwyntiad gyda chynghorydd arian fel y gallwn ni esbonio'r rhain i chi.

Myfyrwyr Ôl-raddedig gyda Chyllid y DU

Gwiriwch gyda'ch corff cyllid myfyrwyr neu drefnu apwyntiad gyda chynghorydd arian. Nid yw'r rhan fwyaf o gyrff cyllid yn cynnig cyllid i chi ailsefyll blwyddyn neu ran o flwyddyn - ar wahân i Asiantaeth Dyfarniadau Myfyrwyr yr Alban

Cyllid Myfyrwyr Cymru

Cyllid Myfyrwyr Lloegr

Cyllid Myfyrwyr Gogledd Iwerddon

Asiantaeth Dyfarniadau Myfyrwyr yr Alban

Uned Dyfarniadau Myfyrwyr