Mae mynd ar leoliad neu astudio dramor yn gyfle gwych i ddatblygu eich profiad a'ch cymwysterau.
Mae'r wybodaeth ganlynol yn amlinellu'r trefniadau ariannol sydd ar waith ar gyfer myfyrwyr sy'n derbyn cymorth myfyrwyr gan naill ai Cyllid Myfyrwyr Cymru neu Loegr sydd yn:
Os ydych chi'n perthyn i un o'r categorïau uchod mae angen i chi gadw at y wybodaeth ganlynol i sicrhau eich bod yn derbyn taliadau.
Rhaid i chi roi gwybod i'ch Tîm Cyllid Myfyrwyr perthnasol eich bod yn astudio dramor / ar leoliad gwaith yn ystod y flwyddyn academaidd - fel arfer gallwch nodi hyn ar eich ffurflen gais cyllid myfyrwyr wrth ailymgeisio am eich cyllid.
Os oes angen i chi anfon tystiolaeth ysgrifenedig bod hyn yn rhan o'ch cwrs ac a yw'n daladwy / di-dâl, Gall Tîm Gweinyddiaeth y Gyfadran eich cynorthwyo gyda hyn.
Ffioedd Dysgu
Rhaid i chi wneud cais o hyd i'ch Tîm Cyllid Myfyrwyr perthnasol am gymorth ffioedd er eich bod yn astudio dramor / ar leoliad gwaith.
Os ydych chi'n gymwys i gael cymorth yna telir hwn yn uniongyrchol i'r sefydliad. Yn yr un modd, os oes rhaid i chi gyfrannu at eich ffioedd, rhaid i chi wneud trefniadau ar gyfer talu gyda'r sefydliad.
Os byddwch yn mynd i'r Brifysgol am lai na 10 wythnos, efallai y codir ffioeddis arnoch ar gyfer y flwyddyn academaidd honno. Gall yr adran refeniw gadarnhau eich tâl ffioedd
Cymorth Cynnal a Chadw
Cyn belled â'ch bod wedi dweud wrth eich Tîm Cyllid Myfyrwyr perthnasol eich bod ar leoliad / yn astudio dramor ac ar yr amod bod y Cwmni Benthyciadau Myfyrwyr wedi derbyn eich ffurflen cais am fenthyciad, dylid talu eich rhandaliadau benthyciad myfyrwyr i'ch cyfrif banc enwebedig.
Cymorth Cynnal a Chadw
Cyn belled â'ch bod wedi dweud wrth eich Tîm Cyllid Myfyrwyr perthnasol eich bod ar leoliad / yn astudio dramor ac ar yr amod bod y Cwmni Benthyciadau Myfyrwyr wedi derbyn eich ffurflen cais am fenthyciad, dylid talu eich rhandaliadau benthyciad myfyrwyr i'ch cyfrif banc enwebedig.
Os ydych chi ar leoliad, bydd swm y cymorth cynhaliaeth sydd ar gael i chi yn dibynnu ar y math o leoliad y byddwch yn ei ddilyn a faint o wythnosau y byddwch yn mynd i'r Brifysgol yn ystod y flwyddyn academaidd - efallai y cewch Fenthyciad Cynhaliaeth cyfradd is yn unig - gweler isod:
Cyllid Myfyrwyr Lloegr 2023/24 CYFRADDAU UCHAF BENTHYCIADAU BLWYDDYN LAWN (blynyddoedd rhyngosod)
Cartref rhiant £2,267 / Llundain £4,244 / Mewn mannau eraill £3,022
Cyllid Myfyrwyr Cymru 2023/24 CYFRADDAU UCHAF BENTHYCIADAU BLWYDDYN LAWN (blynyddoedd rhyngosod)
Os dechreuodd eich cwrs ar ôl Awst 2018 Cartref rhiant £4,475 / Llundain £6,815/ Mewn mannau eraill £5,360
Gall myfyrwyr ar rai lleoliadau penodol di-dâl yn y sector cyhoeddus neu'r sector gwirfoddol fod yn gymwys i gael grantiau / benthyciadau uwch ar gyfer costau byw, os yw'n berthnasol (yn amodol ar brawf modd) hyd yn oed os yw'r cyfnodau o astudio amser llawn yn y flwyddyn academaidd yn llai na 10 wythnos. Holwch
eich darparwr cyllid, neu cysylltwch â ni i weld a yw eich lleoliad yn gymwys, os oes gennych unrhyw ymholiadau, neu os ydych chi'n cael eich ariannu gan awdurdod gwahanol e.e. SAAS neu SFNI, oherwydd gall cyllid fod yn wahanol.
Os ydych chi'n astudio dramor ac yn derbyn cyllid Cyllid Myfyrwyr Cymru, gweld pa gymorth ychwanegol ar gael i chi.
https://www.cyllidmyfyrwyrcymru.co.uk/cyllid-israddedig/israddedig-llawn-amser/myfyriwr-cymreig/beth-sydd-ar-gael/help-ychwanegol-ar-gyfer-myfyrwyr-sy-n-astudio-dramor/
Os ydych chi'n astudio dramor ac yn derbyn cyllid Cyllid Myfyrwyr Lloegr, gweld pa gymorth ychwanegol ar gael i chi
Cysylltwch â Thîm Gweinyddiaeth eich Cyfadran os hoffech wneud cais am daliad cynharach o'ch cyllid myfyrwyr.