Mae'r datganiad hwn yn cwmpasu'r gwasanaethau y mae Tîm
Cynghori Ariannol Myfyrwyr Prifysgol De Cymru yn eu cynnig i gleientiaid a all
ofyn am gymorth ynghylch materion ariannol sy'n ymwneud â'u hastudiaeth.
Y prif wasanaethau yw:
- gwasanaeth gwybodaeth a chyngor i ystod eang o
fyfyrwyr gan gynnwys israddedigion ac ôl-raddedigion amser llawn a rhan-amser
- cyngor
ar bob agwedd ar gymhwyster ar gyfer cymorth cyllid myfyrwyr, gan gynnwys
ffioedd dysgu, benthyciadau myfyrwyr, grantiau, lwfansau ychwanegol,
bwrsariaethau'r GIG a dyfarniadau dewisol
- cyngor a chymorth gyda cheisiadau i Gronfa
Cymorth Myfyrwyr y Brifysgol a chynlluniau cysylltiedig
- cyngor ar gyllidebu, ffynonellau cymorth
ariannol ychwanegol, a chyngor sylfaenol ar fudd-daliadau
- cyngor ar oblygiadau ariannol newid / gadael
cwrs, ac ailadrodd blynyddoedd astudio
- taliadau a gweinyddiaeth y rhan fwyaf o
ysgoloriaethau'r Brifysgol.
Sylwer
nad yw Cynghorwyr Arian a Chymorth yn gallu rhoi cyngor cyfreithiol ar
fanteision ac anfanteision cynhyrchion ariannol a gynigir gan fenthycwyr
preifat unigol.