Gall rheoli eich arian yn y Brifysgol fod yn her. Mae'r Tîm Cyngor Ariannol i Fyfyrwyr yn darparu cyngor a gwybodaeth i'ch helpu i wneud penderfyniadau gwybodus am eich sefyllfa ariannol.
Mae'r Gwasanaeth ar gael i fyfyrwyr a staff y Brifysgol, darpar fyfyrwyr y Brifysgol a graddedigion y Brifysgol.
Beth mae'r Tîm Cynghor Ariannol i Fyfyrwyr yn ei gynnig?
Nod y Gwasanaeth yw:
Rydym yn wasanaeth cyngor ariannol a gwybodaeth i fyfyrwyr Prifysgol De Cymru.
Cewch gyngor trwy gydol eich astudiaethau, o newidiadau mewn amgylchiadau i leoliadau.
Dysgwch sut i gyllidebu, cael y gostyngiadau gorau a rheoli eich arian.
Gwiriwch a ydych yn gymwys i wneud cais am gymorth os ydych yn profi anawsterau ariannol.
Darganfyddwch sut i wneud cais am fwrsariaethau ac ysgoloriaethau ac am gyllid amgen.
e-bostiwch neu archebwch apwyntiad gyda chynghorydd.